Fe gafodd y gwasanaethau tân eu galw i dân mewn tŷ yn Hirwaun yng Nghwm Cynon toc cyn 3yb heddiw (bore Mawrth, Ionawr 23).
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, fe fu 30 o ymladdwyr a chwech injân yn ceisio rheoli’r fflamau.
Mae un person bellach yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth.
O ganlyniad i’r digwyddiad, mae priffordd yr A4509 rhwng cylchfannau Hirwaun a Chwmdâr yn dal i fod ynghau.