Mae enw Gary Speed wedi’i grybwyll yn ystod achos llys cyn-hyfforddwr pêl-droed sydd wedi’i gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn bechgyn ifanc.
Mae cyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru’n un o bedwar o bobol sydd wedi lladd eu hunain ar ôl cael eu hyfforddi gan Barry Bennell.
Yn Llys y Goron Lerpwl, mae tystiolaeth wedi’i rhoi gan fachgen oedd wedi cael ei gamdrin gan Bennell.
Dywedodd wrth y llys ei fod e wedi ceisio cysylltu â rhieni Gary Speed i roi gwybod iddyn nhw am y gamdriniaeth, a hynny ar ôl iddyn nhw ddweud nad oedd ganddyn nhw eglurhad am ei farwolaeth.
Cafwyd hyd i Gary Speed yn ei gartref ar ôl iddo grogi ei hun yn 2011.
Dywedodd y tyst ei fod yn ymwybodol o bedwar o bobol sydd wedi lladd eu hunain ar ôl cael eu hyfforddi gan Barry Bennell, a bod Gary Speed yn un ohonyn nhw.
“A oedden nhw wedi lladd eu hunain oherwydd Barry yn unig, dw i ddim yn gwybod, ond y cyfan dw i’n ei wybod yw ei fod e wedi cael effaith arna i a sut allai effeithio ar bobol eraill.”
Mae Barry Bennell yn gwadu 48 cyhuddiad o gamdrin 11 o bobol rhwng 1979 a 1990.
Manchester City
Fe ddaeth honiad heddiw fod prif sgowt Manchester City, Ken Barnes yn gwybod am honiadau yn erbyn Barry Bennell tra ei fod yn gweithio gyda’r clwb.
Dywedodd bachgen y mae Bennell wedi cyfaddef iddo ei gamdrin, ei fod e wedi cael ei gamdrin dros 100 o weithiau tra ei fod e’n chwarae i dîm ieuenctid y clwb dros gyfnod o bedair blynedd.
Dywedodd fod Ken Barnes, a fu farw yn 2010 a hyfforddwr arall, Mike Grimsley, yn gwybod am yr honiadau. Galwodd am ymddiheuriad gan y clwb.
Mae achos llys Barry Bennell yn parhau.