Mae Ysgrifennydd Cymru wedi wfftio protestiadau ymgyrchwyr sy’n galw am ddatganoli darlledu i Gymru a mwy o arian i S4C.
Steve Eaves yw’r diweddaraf i ymuno gydag ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros drosglwyddo pwerau darlledu o San Steffan i Fae Caerdydd.
Mae’r canwr wedi gwrthod talu ei ffi drwydded deledu, sef £147, gan ddweud nad yw gwleidyddion yn Llundain yn “poeni rhyw lawer” dros gyllido S4C.
“Mae’r cyfryngau darlledu yn atebol o hyd i wleidyddion San Steffan a thelerau rheoli a chyllido a benderfynir yn Lloegr,” meddai Steve Eaves.
“O ganlyniad, nid yw’r cyfryngau darlledu yn ymateb i anghenion ein democratiaeth ôl-ddatganoledig yng Nghymru.
“Nid ydynt yn cael eu datblygu yn y modd angenrheidiol na’u cyllido ar y lefelau priodol i ymateb i anghenion y Gymru gyfoes.
“Mae hyn yn arbennig o wir am S4C. Nid yw gwleidyddion San Steffan yn poeni ryw lawer am hyn, ac mae natur a safon a natur y cyfryngau darlledu yn adlewyrchu hynny.”
S4C yn “bwysig ofnadwy” i Alun Cairns
Ond does dim angen i Steve Eaves boeni, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, sy’n dweud wrth golwg360 bod y sianel genedlaethol yn “bwysig ofnadwy” iddo.
Roedd Alun Cairns yn mynnu hefyd bod Llywodraeth Prydain wedi cyflwyno deddfwriaeth er mwyn “ariannu’r sianel at lefel deg”.
Mae S4C yn cael y rhan fwyaf o’i chyllid, tua £80 miliwn, o’r BBC ac mae hynny wedi’i warantu tan o leiaf 2022. Mae Llywodraeth Prydain yn rhoi ychydig dan £7 miliwn i’r sianel.
Ond yn dilyn blynyddoedd o dorri ar ei gwariant, mae S4C wedi dweud y byddai ei chyllideb yn £50 miliwn yn fwy pe na bai unrhyw dorri wedi bod.
“Mae Llywodraeth San Steffan yn cynnal adolygiad ar hyn o bryd, mae’r adolygiad yn mynd i gael ei gyhoeddi cyn bo hir ac felly byddwn ni’n ymateb pryd hynny,” meddai Alun Cairns wrth gyfeirio at adolygiad Euryn Ogwen Williams i ddyfodol y sianel.
“Fel rhywun sy’n gefnogol i’r sianel, sy’n cydweithio â’r sianel, sydd wedi amddiffyn y sianel ers i fi gael fy ethol yn ’99 i’r Cynulliad ac yn 2010 i San Steffan, dw i wedi cydweithio gyda’r sianel a gydag ymgyrchwyr dros y sianel er mwyn sicrhau llwyddiant.
“Mi oedd rhai wedi rhagweld y byddai dylanwad y BBC yn negyddol, yn amlwg dyw hwnna ddim wedi digwydd.
“Mae’r sianel yn bwysig ofnadwy i fi… mi wnawn ni ymateb i’r adroddiad yn y ffordd gywir ar yr adeg gywir.”