Dyw trenau Arriva Cymru ddim yn cynnig gwasanaethau rhwng Caerdydd, Y Barri a Phenarth y prynhawn yma (dydd Sul) oherwydd fandaliaeth.

Mae cryn oedi i deithwyr yn yr ardal ers tua 1 o’r gloch.

Problem gyda’r signalau oedd yn cael y bai yn gynharach yn ystod y dydd.

Ond mae lle i gredu erbyn hyn bod cyfarpar wedi cael ei ddifrodi.

Mae modd i deithwyr fynd ar fws lleol gan ddefnyddio tocynnau trên am y tro.