Mae Heddlu Gwent yn apelio am help i ddod o hyd i ddynes a aeth ar goll yn oriau mân bore Nadolig.

Mae’r ddynes 63 oed o ardal Ringland, Casnewydd, yn dod o Hwngari’n wreiddiol ac, yn ôl yr heddlu, dyw hi ddim yn gyfarwydd ag ardal Casnewydd.

Mae’n arwydd o bryder yr heddlu eu bod wedi cyhoeddi’r apêl mor fuan ar ôl i’r wraig ddiflannu.

Dyma’r disgrifiad ohoni – 5’7” o daldra, gwallt golau at ei hysgwyddau, yn gwisgo top glas gyda hwd, trowsus jogio llwyd a fflip fflops ac, efallai, sbectol.

Os oes gan rywun wybodaeth, y cais yw iddyn nhw gysylltu â’r heddlu ar 101.