Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad a fu ar stâd Llys Tegid yn y Rhyl ddechrau’r wythnos.

Digwyddodd y lladrad rhwng 8.30yb dydd Llun (Rhagfyr 18) a 5yp dydd Mawrth (Rhagfyr 19).

Roedd y lladron wedi torri i mewn trwy dorri ffenest tŷ, gan fynd yn eu blaenau i ddwyn gemwaith drud oddi yno.

Mae’r heddlu’n gofyn i rywun a allai fod wedi gweld neu glywed unrhyw beth amheus yn ardal Llys Tegid yn ystod y cyfnod, i gysylltu â nhw ar y rhif 101.