Dyfarnwyd miliwn o bunnoedd y flwyddyn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf i Mudiad Meithrin, er mwyn cynorthwyo’r sefydliad i gyrraedd targedau fel rhan o’r ymgyrch i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Bydd y sefydliad yn cael £3.031m y flwyddyn am y ddwy flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn cynnwys £2.031m o gyllid blynyddol a £1 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol yn rhan o’r fargen rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r gyllideb.
Daw’r cyllid ar ôl i’r sefydliad gyhoeddi’r papur ‘Meithrin Miliwn’ yn nhymor yr haf 2017, yn amlinellu’r camau y mae angen eu cymryd i alluogi Mudiad Meithrin i ymateb yn gadarnhaol i’r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae hynny’n golygu:
- Cynnig cymorth ychwanegol i sefydlu cylchoedd meithrin mewn ardaloedd blaenoriaeth ledled Cymru lle nad oes digon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd;
- Datblygu modelau gwahanol ar gyfer cylchoedd meithrin newydd;
- Cryfhau strwythurau rhanbarthol a chenedlaethol Mudiad Meithrin i gefnogi’r cynnydd yn nifer yr aelodau.
“Mae miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged uchelgeisiol iawn,” meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
“Mae addysg, ac addysg y blynyddoedd cynnar yn arbennig, yn allweddol yn hyn o beth a dyna pam yr ydym wedi gosod targedau i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg trwy sefydlu 40 o gylchoedd meithrin Cymraeg ychwanegol erbyn 2021 a 150 o gylchoedd meithrin Cymraeg ychwanegol dros y degawd sydd i ddod.
“Gan mai Mudiad Meithrin yw’r arbenigwr ym maes gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg, mae gan y sefydliad gyfraniad hollbwysig i’w wneud. Rwyf wrth fy modd felly yn cyhoeddi’r cyllid ychwanegol hwn i’w gynorthwyo i gyfrannu at y targed.”