Mae’r ymchwiliad i gwynion fod y Prif Weinidog wedi camarwain y Cynulliad wedi dechrau.
Yn ôl datganiad gan y Llywodraeth, mae’r Ymgynghorydd Annibynnol o’r Alban, James Hamilton, eisoes wedi dechrau ar ei waith ac mae gwahoddiad i unrhyw un ddarparu tystiolaeth.
Tasg James Hamilton yw canfod os yw Carwyn Jones wedi torri’r côd gweinidogol y mae’n rhwym iddo, a hynny drwy gamarwain y Cynulliad gyda’r atebion a roddodd ynghylch honiadau o fwlio yn Llywodraeth Cymru.
Yn 2014, dywedodd yn y Siambr nad oedd unrhyw honiadau o fwlio wedi cael eu gwneud iddo, ond yn 2017, dywedodd fod “unrhyw faterion” a godwyd wedi cael eu rhoi i’r gwely.
Galw am dystiolaeth
Mewn datganiad heddiw, dywed Carwyn Jones mai James Hamilton fydd yn penderfynu sut i fynd ati i weithredu’r ymchwiliad ac y bydd yn cadw’n annibynnol o’r Llywodraeth.
Mae hefyd cyfeiriad e-bost wedi’i nodi er mwyn i bobol allu anfon tystiolaeth i’r ymchwiliad.
“Y cylch gorchwyl a osodwyd gan y Prif Weinidog ar gyfer Mr Hamilton yw rhoi cyngor ar: yr honiad imi dorri Cod y Gweinidogion o ran yr atebion a roddais i gwestiynau ar 11 Tachwedd 2014 a 14 Tachwedd 2017,” meddai llefarydd ar ran Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru.
“Nid yw Côd y Gweinidogion yn rhagnodi hyd a lled y broses, ei ffurf na’r dull o’i gweithredu. Mater i Mr Hamilton yn awr yw pennu sut mae gweithredu ar y mater a gyfeiriwyd.
“Darparwyd ysgrifenyddiaeth ar gyfer Mr Hamilton, a sefydlwyd mesurau diogelu priodol i sicrhau bod y broses hon, ac unrhyw ddeunydd a gyflwynir, wedi’u gwahanu’n briodol oddi wrth Swyddfa’r Prif Weinidog a gweddill Llywodraeth Cymru.
“Gall unrhyw un sy’n dymuno cysylltu ag ysgrifenyddiaeth Mr Hamilton gyda deunydd sy’n berthnasol i’r cylch gorchwyl wneud hynny drwy ymchwiliadatgyfeirio@wales-uk.com.
“Caiff deunydd sy’n gysylltiedig â’r broses ei storio ar wahân ac yn annibynnol ar unrhyw un o systemau mewnol eraill Llywodraeth Cymru.
“Caiff canfyddiadau Mr Hamilton eu gwneud yn gyhoeddus unwaith y bydd wedi cwblhau ei waith.”
Ddoe [Dydd Iau], dywedodd y cyn-weinidog Leighton Andrews bod ganddo dystiolaeth newydd sy’n dangos bod Carwyn Jones wedi derbyn honiadau am fwlio yn erbyn y diweddar Carl Sargeant dair blynedd yn ôl a’i fod wedi addo ymchwilio iddyn nhw.