Mae ymgyrch newydd wedi cael ei lansio yng Nghaerdydd i geisio annog pobol i roi arian at gronfa newydd yn hytrach nag i gardotwyr.
Nod ymgyrch CAERedigrwydd yw ceisio annog pobol i roi mewn ffordd wahanol, ac maen nhw wedi sefydlu cronfa ariannol newydd.
Bellach, fydd pobol yn gallu rhoi i’r ymgyrch drwy neges destun ac ar-lein, ac mae cynlluniau i sefydlu pwyntiau talu â chardiau digyswllt ledled y ddinas.
Mae nifer y bobol sy’n ddigartref yn y brifddinas wedi cynyddu 77% dros y misoedd diwethaf ac mae elusennau a Chyngor Caerdydd wedi dweud bod angen newid y ffordd mae pobol yn rhoi er mwyn dod â digartrefedd i ben.
Dywed trefnwyr yr ymgyrch y bydd yr holl arian sy’n cael ei godi yn mynd yn uniongyrchol at unigolion drwy grantiau.
Mae golwg360 yn deall y bydd hynny’n cael ei rannu’n grantiau o hyd at £750 i sefydliadau ac elusennau syn gweithio gyda’r digartref.
“Rhoi dewis arall”
“O gymorth tai i ddillad ar gyfer cyfweliadau – mae rhoi CAERedigrwydd yn gallu helpu i roi dewis arall i’r rhai sy’n byw ar y strydoedd,” meddai’r trefnwyr.
“Dewch i ni wneud rhywbeth gyda’n gilydd i newid a gwella bywyd pobl a rhoi cyfle iddyn nhw gadw draw o fywyd ar y strydoedd am byth.”
Y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru sy’n cynnal yr ymgyrch ond mae Cyngor Caerdydd, yr heddlu, ynghyd ag elusennau fel y Big Issue, y Fyddin Iachawdwriaeth a’r Wallich yn rhan ohono.