Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad  £107 miliwn er mwyn cynyddu’r lleoedd hyfforddi i nyrsys Cymru.

Bydd hyn yn caniatáu i fwy na 3,500 o fyfyrwyr newydd ymuno â rhaglenni addysg gofal iechyd ledled Cymru.

Mae’r buddsoddiad yn gynnydd o £12 miliwn o gymharu â phecyn llynedd.

Bydd y pecyn yn arwain at gynnydd ym mhob un o’r pedwar maes nyrsio, ac at gynnydd mewn lleoedd hyfforddi ymwelwyr iechyd, ffisiotherapi ac iechyd galwedigaethol.

“Falch iawn”

“Rydw i’n falch iawn ein bod ni unwaith eto yn cynyddu’r lleoedd hyfforddi,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Bydd y pecyn cymorth hwn … yn helpu i gynnal buddsoddiad ar gyfer gweithwyr … gan gynnwys gwyddonwyr gofal iechyd, parafeddygon, hylenwyr deintyddol, therapyddion a radiograffwyr.”