Mae Aelod Cynulliad wedi galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain i wneud mwy i ddiogelu busnesau bach wrth i’r trafodaethau Brexit barhau.

Yn ôl gwaith ymchwil gan fanc Aldermore, mae 70% o arweinyddion busnesau bach a chanolig yn dweud eu bod eisiau cael rhagor o wybodaeth er mwyn paratoi ar gyfer y cyfnod trosglwyddo pan fydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar ddydd Sadwrn y busnesau bach, mae Adam Price o Blaid Cymru yn dweud mai’r sector yw “enaid economi Cymru.”

“Mae unrhyw obeithion y sector busnesau bach a chanolig y byddai Cyllideb y Deyrnas Unedig yn mynd i’r afael â’u pryderon dros Brexit wedi’u lluchio gan ddatganiad gwan y Canghellor,” meddai.

“Oni bai am ffigwr bras o £3 biliwn tuag at y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, methodd y Canghellor i amlinellu’r ffordd y mae ei lywodraeth yn bwriadu diogelu swyddi, busnesau a chytundebau masnach Cymru wrth i’r trafodaethau Brexit barhau.”

Ychwanegodd y byddai Plaid Cymru yn creu cronfa i fusnesau baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Llywodraeth San Steffan “yn cefnogi”

Ond yn ôl Llywodraeth Prydain, bydd ei Strategaeth Ddiwydiannol, sy’n cynnwys buddsoddi £20 biliwn i “fusnesau arloesol”, yn cefnogi’r sector.

A dywed bod y “Banc Busnes Prydeinig” eisoes wedi sicrhau dros 1,251 o fenthyciadau i fusnesau bychain ers ei ddechrau yn 2014.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn benderfynol i sicrhau bod gan fusnesau Cymru yr offer a’r gefnogaeth y maen nhw eu hangen i fod yn llwyddiannus,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.

“Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol yn dod o’r sgyrsiau rydym ni wedi cael â busnesau a gweithwyr ledled Cymru, ac yn rhoi buddsoddiad mawr i isadeiledd ac ymchwil gan greu twf a mwy o gydweithio rhwng Clawdd Offa.

“Dyma strategaeth sy’n manteisio ar ein cryfderau economaidd ac yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau y mae Cymru yn ei wynebu, gyda’r bwriad o gynyddu cynhyrchiant a chreu ffyniant ledled y wlad.”