Fe fydd Archesgob Cymru, John Davies yn cael ei orseddu’n swyddogol yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu am 2 o’r gloch heddiw.
Mae’n olynu Dr Barry Morgan.
Fe fydd yn cael ei gyflwyno i’r gynulleidfa gan Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andrew John.
Yn ystod y gwasanaeth, fe fydd e’n tyngu llw gan ddefnyddio Beibl William Morgan, sydd wedi’i gadw fel arfer yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei arwain gan Ddeon Aberhonddu, Dr Paul Shackerley, ac mae disgwyl mwy na 600 o bobol yno i glywed anerchiad cynta’r Archesgob newydd.