Mae Gwilym Owen, Alun Ffred, Cefin Roberts a Beti George ymysg y bobol amlwg yn lleisio barddoniaeth ar ddisg newydd gan fardd o Wynedd.
Yr wythnos hon mae Karen Owen wedi cyhoeddi cerdd a ddaeth yn agos at y Goron ym mhrifwyl Môn ar ffurf cryno-ddisg.
Ar 7 Llais: Cerdd am ystyr bywyd, mae saith o leisiau cyfarwydd yn darllen pytiau o’r gerdd.
Y saith yw Cefin Roberts, Maureen Rhys, Nia Roberts, Dewi Pws, Beti George, Alun Ffred a Gwilym Owen.
‘Hollol naturiol’
Dyma’r ail gryno-ddisg o farddoniaeth gan Karen Owen ac mae’n dilyn cyhoeddi’r gryno-ddisg Lein a bît yng nghalon bardd y llynedd.
“Mae yna fwy o opsiynau erbyn hyn,” meddai’r bardd gan gyfeirio at ffurfiau llafar ac electronig o gyhoeddi.
“Efallai mai’r syndod mwyaf yw nad oes yna fwy o bobol yn gwneud pethau yn electronig neu’n llafar achos mae ganddon ni fwy o gyfleoedd a mwy o offer nag erioed.
“Mae cynifer o elfennau yn y traddodiad Cymraeg sy’n llafar, mae’n hollol naturiol i wneud hynny.”
Rhif 7
Mae saith rhan i’r gerdd ac mae Karen Owen, a astudiodd Fathemateg yn y brifysgol, yn pwysleisio grym y rhif hwnnw.
“Dydi o ddim yn gyd-ddigwyddiad mai’r saith yma yw’r patrwm sydd wedi goroesi fwyaf yn hanes llenyddiaeth Gymraeg,” meddai Karen Owen gan esbonio fod saith sill mewn englynion a chywyddau a bod saith lliw i’r enfys, saith diwrnod i’r wythnos yn ogystal â saith pechod marwol.
Ac wrth drafod “ystyr bywyd” yn ei cherdd mae’n pwysleisio’r angen am hiwmor am mai dyna “un o’r arfau mwyaf sydd ganddon ni mewn bywyd, pan fo pethau yn dod ar ein traws ni.”
Ar daith
Mae Karen Owen yn gobeithio mynd â’r gwaith ar daith trwy Gymru yn y flwyddyn newydd.
Mae’r gryno-ddisg hefyd yn cynnwys cerddoriaeth yn y cefndir gan Siôn Alun Jones, Osian Howells, Gwern ap Tudur, Rhys Trimble, Martin Hoyland, Titus Monk ac Edwin Humphreys.
Stori lawn yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.
Dyma ‘Cofia’, trac 1 oddi ar y gryno ddisg, gyda Cefin Roberts a Maureen Rhys: