Mae teulu milwr o ddwyrain Llundain wedi ennill cais am ail gwest i farwolaeth bachgen 17 oed yng ngwersyll Deepcut yn Surrey yn 2001.

Cafodd Geoff Gray o Hackney ei ganfod yn farw gyda dau anaf gwn yn ei ben ym mis Medi 2001.

Yn dilyn y cwest gwreiddiol, dyfarnodd y crwner reithfarn agored heb gasgliad naratif, ac mae’r teulu wedi llwyddo i ennill hawl drwy’r Uchel Lys am gwest newydd wrth i dystiolaeth newydd ddod i law.

Cheryl James – Llangollen

Cafodd ail gwest ei gynnal hefyd i farwolaeth Cheryl James, 18 oed o Langollen, gafodd ei chanfod yn farw yng ngwersyll Deepcut yn 1995. Fe ddyfarnodd yr ail gwest ym mis Mehefin y llynedd bod Cheryl James wedi lladd ei hun.

Yn ogystal, mae disgwyl i ail gwest i farwolaeth y milwr Sean Benton o Sussex gael ei gynnal yn y flwyddyn newydd wedi iddo gael ei ganfod yn farw yn y gwersyll yn 1995.

Rhwng 1995 a 2002 bu farw pedwar milwr ifanc o anafiadau gwn yng ngwersyll Deepcut, Surrey.