Bydd £4m yn cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru er mwyn sefydlu pedair canolfan fusnes newydd ledled y wlad.

Wedi’u hariannu’n rhannol gan gronfa Ewropeaidd, nod y canolfannau yw annog entrepreneuriaeth mewn ardaloedd penodol.

Bydd y canolfannau newydd yn cael eu sefydlu yng ngogledd-orllewin Cymru, y canolbarth, Cymoedd y de-orllewin a Chymoedd y de-ddwyrain.

Ynghyd â chanolfan sydd eisoes wedi’i sefydlu yn Wrecsam, mae disgwyl i’r canolfannau greu o leiaf 1,160 o swyddi newydd.

“Cefnogi ac annog”

“Rydym yn gwybod bod cefnogi ac annog entrepreneuriaeth ledled Cymru yn hollol hanfodol os ydym i lwyddo i ddatblygu economi Cymru,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi.

“Bydd y canolfannau yn ychwanegol i’r ganolfan fusnes yn Wrecsam sydd eisoes yn cael ei sefydlu a bydd yn sicrhau y gall entrepreneuriaid ym mhob rhan o Gymru ddod o hyd i’r lle a’r cymorth y maent eu hangen i droi eu syniadau’n fusnesau gwirioneddol.”

Yn ogystal â chyllid y canolfannau, mi fydd £1m yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau entrepreneuriaeth cymunedol mewn cymunedau llai breintiedig ledled Cymru.