Mae dyn 61 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tractor a threlar yng ngogledd Sir Benfro.

Bu farw Ryan David Lewis yn yr ysbyty ddydd Mawrth (Tachwedd 21) yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Lancych, Boncath.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i’r digwyddiad ac mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi’u hysbysu.