Bu farw un o eisteddfodwyr lleol mwyaf adnabyddus Cymru.
Roedd Arthur Wyn Parry o bentref Y Groeslon ger Caernarfon yn 83 oed, ac wedi treulio’r dau ddegawd diwethaf yn mynd o eisteddfod i eisteddfod yn cystadlu ar yr emyn dros 60 oed.
Fe gipiodd y brif wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol fwy nag unwaith, ond fe ddaliodd i gefnogi’r gwyliau bychain yn angerddol bob penwythnos – o ben draw Sir Fôn i Lanbedr Pont Steffan; o gefn gwlad Pen Llyn i’r Treuddyn.
Ymhlith ei hoff eiriau yr oedd ‘O fy Iesu bendigedig’ Eben Fardd, a ‘Tydi a wnaeth y wyrth’ W Rhys Nicholas.
Yn ei bentref genedigol, lle’r oedd yn dal i fyw ac yn falch o arddel ei gysylltiad teuluol â’r diweddar ddramodydd John Gwilym Jones, ac yng nghapel Y Bwlan yn Llandwrog, roedd yn benderfynol o gadw’r Pethe yn fyw. Fe gafodd ei gyflwyno â’r Fedal Gee yn 2015 am ei wasanaeth i’r Ysgol Sul.
Mae’n gadael gweddw, Marina, ynghyd â’i ddau o blant – Iwan Wyn Parry a Manon Sion – a’u teuluoedd.