Mae nifer o ffyrdd ar gau yn y gogledd y bore yma, yn dilyn glaw trwm yn ystod y nos.
Mae’n debyg mai Ynys Môn gafodd hi waethaf neithiwr, gyda’r rhan fwyaf o briffyrdd yr ynys dan ddŵr, ond mae Gwynedd wedi’i heffeithio’n wael hefyd.
Fe fu’n rhaid cau’r A55 i’r ddau gyfeiriad, ac er bod y ffordd bellach wedi agor, mae cyfyngiadau ar Bont Britannia i feiciau, beiciau modur a charafanau.
Mae tirlithriad mawr wedi cau’r A545 yn gyfan gwbwl ger Glyn Garth; ac mae’r B5019 rhwng Biwmares a Phentraeth ar gau, yn ogystal â’r A5025 rhwng Pentraeth a Four Crosses.
Mae Stryd y Castell ym Miwmares ar gau hefyd, ac mae llifogydd difrifol yn Llangefni.
Mae staff Cyngor Ynys Môn, sy’n gweithio yn y prif swyddfeydd yn Llangefni, wedi cael gorchymyn i weithio o adref heddiw.
Gwynedd
Yng Ngwynedd, mae nifer fawr o ffyrdd ar gau:
- yr A4086 yn Nant Peris;
- yr A4085 rhwng Betws Garmon a Rhyd Ddu;
- y B4418 o Nantlle i Ryd Ddu;
- Ceunant Llanrug ger Tan y Coed;
- Ffordd yr Orsaf, Llanrug ger Pen-y-bont;
- Ffordd Crawia, Llanrug ger Pont Crawia;
- y ffordd rhwng cylchfan Plas Menai ger Y Felinheli heibio i feithrinfa blanhigion Crug tuag at cylchfan Ty Hen;
- mae’r ffordd rhwng Llandwrog a Chaernarfon hefyd wedi’i chau.
Y cyngor i bobol ar hyn o bryd yw i gymryd gofal os oes rhaid mentro allan ar y ffyrdd, ac i beidio ffonio’r gwasanaethau brys os nad yw’n argyfwng.