Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am law trwm a gwyntoedd cryfion dros rannau o ogledd a chanolbarth Cymru dros y dyddiau nesaf.
Mae chwe rhybudd oren i fod yn barod am lifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer ardaloedd o gwmpas afon Dysynni ger Tywyn, a Dyfi ger Dinas Mawddwy a Llanbrynmair.
Mae rhybuddion hefyd o gwmpas dalgylch Glaslyn a Dwyryd yn Nyffryn Ardudwy, Conwy a gogledd orllewin Gwynedd.
Mae disgwyl i rannau eraill o wledydd Prydain gael eu taro gan y gwyntoedd cryfion hefyd, gyda rhybudd am eira posib yn yr Aban.