Mae ymchwiliad ar y gweill ledled gwledydd Prydain i honiadau o gamddefnyddio data fforensig.
Ar hyn o bryd mae Heddlu Manceinion yn ymchwilio i honiadau o gamddefnyddio data fforensig yn ffatri brofi Randox yn ogystal â Labordai Trimega, ac mae dau ddyn wedi’u harestio a phump arall yn cael eu holi.
Mae’r honiadau’n ymwneud â chamddefnydd profion tocsicoleg sy’n cael eu defnyddio i ganfod alcohol a chyffuriau.
Yn ôl Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) gallai mwy na 10,000 o achosion fod wedi’u heffeithio, gyda’r rhan fwyaf yn ymwneud â throseddau traffig a’r gweddill yn cynnwys trais, troseddau rhywiol a marwolaethau anesboniadwy.
Mae disgwyl i 70% o’r achosion mwyaf gael eu hailbrofi’n fuan gyda’r gweddill i’w cwblhau yn 2018.
‘Cydweithio’n agos’
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod yn cydweithio â Llywodraeth Prydain ar y mater.
Yn ôl Huw Irranca-Davies, Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, mae profion o’r fath yn cael eu defnyddio mewn achosion llys ynghyd ag awdurdodau lleol a chyflogwyr preifat.
“Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor ddifrifol yw’r mater hwn a’r effaith bosibl y gall ei gael ar hyder y cyhoedd yn y defnydd o wyddor fforensig yn y system gyfiawnder,” meddai Huw Irraca-Davies.
Mae’n dweud fod Llywodraeth Cymru’n “gweithio’n agos” â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i geisio “deall a rheoli’r effaith y bydd hyn y ei chael ar y System Cyfiawnder Teuluol.”
‘Anodd, sensitif a difrifol’
“Nid yw’n hysbys faint o gwsmeriaid Trimega (megis awdurdodau lleol, unigolion, cynrychiolwyr cyfreithiol a chyflogwyr) a gafodd eu heffeithio gan y canlyniadau annibynadwy hyn, ac mae’n bosibl na fydd modd eu hadnabod i gyd, oherwydd arferion cadw cofnodion gwael y cwmni,” ychwanegodd Huw Irranca-Davies.
“Dyma fater anodd, sensitif a difrifol dros ben sy’n bwrw hyder y cyhoedd yn y system gyfiawnder,” meddai.
“Rwyf wedi siarad â Gweinidogion yn Llywodraeth y DU ac wedi pwysleisio bod angen i’n dwy lywodraeth gydweithio’n barhaus ar y mater hwn a’i bod yn bwysig inni rannu gwybodaeth sy’n effeithio ar Gymru cyn gynted ag y daw i’r amlwg.”