Mae ysgolion ar hyd a lled Cymru yn codi arian i Blant Mewn Angen heddiw, a hynny mewn amryw o wahanol ffyrdd.

Yn Ysgol Gynradd y Gelli, Caernarfon, maen nhw wedi bod yn gwisgo eu pyjamas ac wedi bod yn addurno bisgedi a chacennau bach Pudsey yr arth.

“Rydan ni wedi bod yn gwahodd y plant i wisgo pyjamas neu ddillad eu hunain os ydan nhw eisio i ddod i’r ysgol heddiw, ac roedden nhw’n gorfod talu dirwy am wneud hynny,” meddai Buddug Roberts, dirprwy bennaeth yr ysgol.

“Hefyd, rydan ni’n addurno bisgedi a cupcakes ac maen nhw’n gorfod talu am gael gwneud hynny.

Mae’r ysgol eisoes wedi codi dros £400 ac mae’r arian yn dal i lifo mewn.

Taith Feics yn Ysgol y Dderwen

Yn Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin, roedd plant y Cyngor Ysgol yn dal i gyfri’r arian, gyda’r ysgol yn gobeithio codi cannoedd o bunnoedd i’r achos.

Fe ddaeth Taith Feics Aled Hughes i’r ysgol ddechrau’r wythnos hefyd – her y cyflwynydd Radio Cymru i deithio o Gaerdydd i Fangor ar gefn beic mewn pum diwrnod, a hynny er mwyn codi miloedd i Blant Mewn Angen.

“Mae’r plant yn yr ysgol heddiw mewn pyjamas spots neu streipiau a buodd Aled Hughes yma dydd Mawrth ac fe wnaethon ni ddigwyddiadau ar yr iard pan oedd e yma,” meddai Anwen Davies, ysgrifenyddes yr ysgol.

“Buodd y plant i gyd mas ar yr iard pan oedd e’n cerdded i mewn, buodd e’n siarad â’r plant, roedden nhw’n rhoi hwrê iddo fe wedyn cyn iddo fynd.

Plant yn edrych yn “amryliw sâl”

Yn Ysgol Treganna, Caerdydd, mae plant wedi dod i’r ysgol mewn smotiau hefyd a rhai wedi gwneud ymdrech i baentio eu hunain o’u corryn i’w sawdl.

“Mae pawb wedi mynychu’r ysgol yn smotiog heddiw,” meddai Rhys Harries, pennaeth Ysgol Treganna.

“Mae ambell un yn gwneud andros o ymdrech, ambell i blentyn yn edrych yn eitha’ sâl, yn amryliw sâl os caf i ddweud!

“Wrth wneud hynny wedyn, ry’n ni’n casglu £1 y pen gan staff, rhieni a phlant ac erbyn diwedd y dydd, ry’n ni’n gobeithio casglu tua £500.”