Mae adroddiadau papur newydd heddiw yn awgrymu fod Chris Coleman yn ystyried y posibilrwydd o reoli Sunderland, y clwb sydd ar waelod y Bencampwriaeth yn Lloegr.

Mae disgwyl i’r Gymdeithas Bêl-droed gwrdd yr wythnos yma i drafod dyfodol rheolwr y tîm cenedlaethol, ac yn ôl y Daily Mail Chris Coleman yw dewis cyntaf Sunderland i reoli eu tîm.

Ac wrth i’r trafod ar ddyfodol Coleman boethi, mae un arall o gyn-reolwyr Cymru am i’r Gymdeithas Bêl-droed ymdrechu i’w gadw.

“Byddwn i am iddo aros,” meddai Mark Hughes.

“Mae wedi profi llwyddiant a chael effaith anhygoel ar bêl-droed Cymru yn ei swydd ac yn amlwg mae pawb yng Nghymru am iddo barhau.”