Mae Angel Rangel yn “ddewis gwych” i fod yn gapten ar Glwb Pêl-droed Abertawe, yn ôl y dyn y mae e’n ei ddisodli.

Dywedodd Leon Britton wrth golwg360 nad oedd angen iddo roi cyngor i’r capten newydd yn dilyn ei benodiad yr wythnos hon.

“Mae e’r un oedran â fi ac yn brofiadol iawn. Beth alla i ddweud wrtho fe nad yw e’n ei wybod eisoes? Mae e’n nabod y clwb cystal â fi.

“Mae e’n ddewis gwych ac mae gan y chwaraewyr i gyd barch mawr tuag ato fe, a byddan nhw’n gwrando ar ei farn.

“Ef oedd y chwaraewr naturiol i gymryd drosodd. Mae e’n broffesiynol, yn ymroi’n llwyr ac mae pawb yn ei barchu.

“Mae e’n ‘nabod y ddinas a’r diwylliant a dw i’n credu y bydd e’n gwneud yn wych.”

Yr wythnos hon fe gafodd Leon Britton ei benodi yn Hyfforddwr Cynorthwyol Abertawe.

Fe gafodd yr hyfforddwr cynorthwyol blaenorol, Claude Makelele, ei benodi’n rheolwr ar glwb Eupen yng Ngwlad Belg ddechrau’r wythnos.

‘Bedydd tân’

Dyw amseru’r penodiad ddim yn wych i Leon Britton, sy’n dechrau yn ei swydd pan fo’r Elyrch yn safel 19 yn Uwch Gynghrair Lloegr, ac yn wynebu gêm fawr yn Burnley yfory.

Ac mae’r cyn-gapten yn cyfaddef ei fod e wedi cael “bedydd tân” yn ei wythnos gyntaf yn y swydd, ac yntau’n parhau i fod yn chwaraewr hefyd.

“Ry’n ni mewn cyfnod anodd, ry’n ni’n gwybod hynny. Dyn ni ddim eisiau bod yn bedwerydd ar bymtheg yn y gynghrair ond allwch chi ddim dewis a dethol eich amser. Rhaid i chi wneud y penderfyniad sy’n teimlo’n iawn.

“Byddai’n well gyda fi tasen ni yn hanner ucha’r tabl, ond y cyfle dw i wedi’i gael yw’r un cywir i fi ar hyn o bryd. Gobeithio y galla i gael mewnbwn positif i’r tîm a’n codi ni i fyny’r tabl.

“Ry’n ni wedi bod yn brwydro i osgoi’r gwymp ond galla i edrych ar yr hyn oedd wedi gweithio i fi fel chwaraewr a’r hyn wnaethon ni ymateb yn dda iddo fe. Rhaid i chi dynnu ar hynny er mwyn helpu’r chwaraewyr a’r staff a gobeithio y galla i fod yn ddolen gyswllt.”

Rheolwr yn y dyfodol?

Er mai llai nag wythnos yn ôl y cafodd ei benodi’n hyfforddwr cynorthwyol, mae’r cefnogwyr eisoes yn crybwyll enw Leon Britton ar gyfer swydd y rheolwr yn y dyfodol.

Mae’r swydd yn golygu ei fod yn parhau i geisio ennill ei gymwysterau hyfforddi, ac mae’n ystyried swydd y rheolwr fel un i’w gymryd yn y dyfodol. Pe bai hynny’n digwydd, byddai’n ymuno â chyn-gapteiniaid fel Garry Monk a Roberto Martinez, sydd wedi cael eu dyrchafu i fod yn rheolwr.

“Mae’n rhywbeth sydd yn eich meddwl chi, dw i’n meddwl. Ry’ch chi’n sôn am rywun fel Garry Monk ac un o’r pethau wnaeth e ei gael yn anodd oedd y ffaith ei fod e’n gwybod mai’r diwrnod y byddai’n cael ei ddiswyddo fyddai ei ddiwrnod olaf gyda’r clwb.

“Unwaith ry’ch chi’n cymryd y cam hwnnw o fod yn rheolwr, mae’n anodd dod nôl wedyn ac mae eich amser chi ar ben. Mae’n rhywbeth mae’n rhaid i chi feddwl amdano fe.”

Gallwch ddarllen cyfweliad â’r capten newydd, Angel Rangel yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.