Â’r dyddiad terfyn ar gyfer cofrestru eiddo yn nesáu ar gyfer landlordiaid, mae dau wedi eu herlyn yng Nghaerdydd am weithredu heb drwydded.
Mae’r gwerthwr tai, Yvette Phillips – o gwmni R Miles Scurlock yn Aberdaugleddau – wedi derbyn dirwy £4,600 am fethu â chofrestru eiddo na chyflwyno cais am drwydded.
Ac er i’r landlord Damian Cross – o Rodfa’r Gwagenni, Y Barri – gofrestru ei eiddo, methodd â chael gafael ar drwydded, a bellach mae’n wynebu dirwy o £660.
Rhybudd
“Rydym yn gweithredu ac mi wnawn ni ddod o hyd i’r unigolion sydd ddim yn cydymffurfio,” meddai Lynda Thorne, sef y Cynghorydd sydd yng ngofal tai ar Gyngor Caerdydd.
“Yn ogystal ag achosion llys a dirwyon mawr, mae landlordiaid a gwerthwyr tai yn wynebu cosbau rent a chyfyngiadau ar ailfeddianu eu heiddo, os dydyn nhw ddim yn cydymffurfio.”
Mae’n rhaid i landlordiaid gofrestru eu heiddo erbyn Tachwedd 23.