Mae Cyngor Powys wedi cadarnhau y bydd un o gartrefi gofal y sir yn cau.
Daw’r penderfyniad i gau Cartref Gofal Preswyl Fronheulog yn Llandrindod, yn sgil misoedd o “gydweithio agos” â pherchnogion y safle, Hafal Crossroads.
Mae’n debyg bod 16 o bobol oedrannus yn byw yn y cartref, a bod dod o hyd i lety arall i’r unigolion yma heb drafferth yn “brif flaenoriaeth” i’r cyngor.
Roedd y cartref wedi bod yn wynebu heriau ariannol yn gysylltiedig â chostau cynnal a chadw ac atgyweirio.
“Aflwyddiannus”
“Rydym wedi bod yn cefnogi Hafal Crossroads i ddod o hyd i ffyrdd eraill o ariannu’r gwaith atgyweirio, ond mae hyn wedi bod yn aflwyddiannus ac mae perchnogion y cartref wedi gwneud y penderfyniad i gau,” meddai’r Cynghorydd, Stephen Hayes.
“Ein blaenoriaeth yw lles y trigolion yn ystod y cyfnod anodd hwn, a bydd staff o Hafal Crossroads a’r cyngor yn gwneud popeth y gallant i sicrhau bod y trosglwyddiad i lety arall mor ddidrafferth â phosib.”