Mae perthnasau teulu oedd yn byw mewn tŷ yn ne Powys wnaeth losgi’n ulw mis diwethaf, wedi diolch i’r gwasanaethau brys a’u cymuned.
Mae’r heddlu’n credu bod tad ynghyd â phump o’i blant ifanc wedi marw ar ôl i’r tân ddifrodi’r tŷ yn Llangamarch ar Hydref 30.
Llwyddodd tri phlentyn arall i ddianc ac maen nhw’n cael gofal gan aelodau eraill o’r teulu.
Neges y teulu
“Fel teulu, hoffwn ddweud pa mor ddiolchgar yr ydym ni am y cydymdeimlad a’r cymorth yn dilyn y trasiedi,” meddai’r perthnasau mewn datganiad.
“Mae cefnogaeth ffrindiau, y gymuned leol a gan bobol eraill wedi ein syfrdanu, a hoffwn ddiolch chi gyd am eich holl garedigrwydd.
“Hoffwn hefyd gyfleu ein diolch i’r gwasanaethau brys am eu holl ymdrech hyd yma … Mae eu proffesiynoldeb a’u parch tuag atom wedi bod yn glir i ni.”