Fe wariodd y Cymry £37 miliwn ar dalu am barcio a dirwyon parcio yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf ddaeth i ben fis Ebrill.
Mae adroddiad y Royal Automobile Club Foundation (RAC) yn dangos bod y swm yma yn gynnydd o 4.5% o gymharu â’r flwyddyn gyfatebol gynt.
Yn ogystal â hynny, mae’r adroddiad yn dangos bod cynghorau yng Nghymru wedi gwneud elw o £14 miliwn drwy godi am barcio a dirwyo am fethu â pharcio yn ôl eu rheolau.
Gwnaeth 19 o 22 o gynghorau sir Cymru elwa o’r dirwyon yma.
Cyngor Caerdydd wnaeth yr elw mwyaf (£3.66 miliwn), gydag Abertawe yn ail (£2.47 miliwn) a Gwynedd yn drydydd (£1.36 miliwn).