Mae plismon a gyrrwr fan wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys brynhawn ddoe (Tachwedd 9).

Tarodd car heddlu a fan Fiat Ducato yn erbyn ei gilydd ar yr A470 rhwng Llanfair ym Muallt a Llyswen, am 3.10yh.

Cafodd y plismon ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd, gydag anafiadau difrifol. Cafodd gyrrwr y fan ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans.

Bu’r ffordd ar gau rhwng 3.45 y p’nawn a 10 yr hwyr.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu ar 101.