Mae angen i fwy o ferched fynd ar lwyfan i adrodd eu cerddi mewn nosweithiau barddonol Cymraeg, fel bod hynny’n cael ei weld “yn hollol normal”.

Dyna y mae bardd wedi’i ddweud wrth golwg360 ar drothwy ei thaith gyda phump o feirdd benywaidd sy’n perfformio “all-girl line up” mewn tri lleoliad yng Nghymru.

Mae Miriam Elin Jones yn aelod o ‘Gywion Cranogwen’, sef chwech o feirdd sydd wedi enwi eu criw yn deyrnged i’r bardd Sarah Jane Rees, oedd yn barddoni dan yr enw Cranogwen.

Bu Cywion Cranogwen yn perfformio am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni, ac maen nhw eisiau annog mwy o ferched i gymryd rhan ac i ymateb i’r “prinder” merched sydd yn y sin farddonol.

Y Cywion yw Miriam Elin Jones, Elan Grug Muse, Manon Awst, Bethany Celyn, Siân Miriam a Caryl Bryn.

Yn eu datganiad i’r Wasg, maen nhw yn galw eu hunain yn  ‘Genod a Chrotesi Cegog’.

“Ddim yn ymosodiad”

“Annog mwy o ferched i farddoni,” yw bwriad taith Cywion Cranogwen meddai Miriam Elin Jones.

“Dim bod ni’n mynd: ‘C’mon dewch’, ond bod modd gweld bod all-girl line up yn bosib.

“Mae e’n rhywbeth really prin i gael llwyfan o ferched ymhob sefyllfa gelfyddydol.

“Os edrychi di ar y Talwrn a phethau fel yna, a hyd yn oed mewn gigs, gigs Maes B a gigs bychan ledled Cymru, mae e’n anarferol iawn i gael llwyfan o ferched.

“Mae’n ddiddorol i ni fel chwech i weld os yw’r deinamig yna yn gweithio a gweld os yw e’n gweithio’n wahanol… sa i’n siŵr.

“Dyw e’ ddim yn ymosodiad a dyw e’ ddim yn rhyw fath o bwynt gwleidyddol, ond bod e’n rhywbeth sydd wedi tyfu a bod ni’n gweld yr angen i gael chwe merch ar lwyfan a bod hwnna’n hollol normal.

“Mae yna le i ni wneud hyn a gweld sut eith hi.”

Bydd Cywion Cranogwen yn cynnal nosweithiau yn Oriel Myrddin, Caerfyrddin ar Dachwedd 18, Llyfrgell Dinbych ar 24 Tachwedd a Galeri Caernarfon ar 25 Tachwedd.

Bydd y sioe yn gyfuniad o gerddi, celf ar ffurf tafluniad fideo ac ambell i gân.