Mae angen “canllawiau clir” i fynd i’r afael â’r broblem o aflonyddu rhywiol sydd yn “endemig” yn y diwydiant adloniant, meddai un o actoresau gorau Cymru.
Daw sylwadau Sharon Morgan wedi i undeb Equity – sydd yn cynrychioli actorion – gyhoeddi bod angen “atebion radical i’r argyfwng” yn y diwydiant.
Mae Sharon Morgan newydd ei chodi’n aelod o Bwyllgor Equity Cymru, ac mae’n poeni bod bywydau actorion bregus yn cael eu “dinistrio” gan y broblem.
“Mae actorion yn arbennig o agored i gael eu hecsbloetio,” meddai Sharon Morgan wrth golwg360. “Dynion a menywod fel y gwelom yr achos Kevin Spacey…
“Mae pŵer aruthrol gan y bobol sydd yn castio, ac mae pawb eisiau creu bywoliaeth – hynny yw creu llwyddiant – yn enwedig actorion ifanc.
“Dw i’n credu bod pawb yn cytuno bod angen canllawiau clir sydd yn mynd i roi hyder i unrhyw unigolyn Equity i wrthod gwneud unrhyw beth maen nhw’n teimlo’n anghyffyrddus. A hefyd, os oes unrhyw beth yn digwydd, bod yr undeb yn mynd i fod reit tu ôl iddyn nhw.”
Achos diweddar yng Nghaerdydd
Mae Sharon Morgan yn tynnu sylw at achos diweddar mewn gweithdy castio yng Nghaerdydd lle gofynnwyd i ferch ifanc “wneud rhywbeth anweddus”, meddai.
Er ei bod yn cydnabod bod y broblem o aflonyddu rhywiol yn bodoli yng Nghymru mae’n nodi ei fod yn “digwydd ar raddfa lai” nag yn Lloegr.
“Dyw e ddim mor gryf yng Nghymru ag y mae e yn Lloegr, wrth gwrs,” meddai Sharon Morgan wedyn. “Oherwydd does gennym ni ddim y system sêr yn yr un modd, yn yr iaith Gymraeg.
“Mae’n ddiwydiant llawer mwy democrataidd. Mae lot llai o arian yma. Mae lot llai o enwogrwydd yma. Ond, mae’n sicr yn digwydd ar raddfa lai o fewn prosesau castio.”