Mae un o’r ffigurau amlyca’ ym maes ymddygiad cyrff cyhoeddus yn dweud bod Prif Weinidog Cymru wedi ymddwyn yn rhy frysiog wrth roi’r sac i’r Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Ac yn ôl Syr Alistair Graham, roedd hi’n annheg na chafodd yr AC wybod beth oedd y cyhuddiadau yn ei erbyn na chyfle i ymateb iddyn nhw.

Mae un AC Llafur hefyd wedi beirniadu’r drefn a arweiniodd at hunanladdiad tebygol aelod Alyn a Glannau Dyfrdwy fore ddoe.

‘Rhaid cael proses iawn’

Yn ôl Alistair Graham, cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Cyhoeddus, roedd hi’n anghywir fod Carl Sargeant wedi cael y sac o swydd gweinidog heb broses ymchwilio iawn.

“Mae’n rhaid i broses briodol olygu bod rhaid ichi wybod manylion y cyhuddiadau yn eich erbyn a’ch bod yn cael cyfle i’w hystyried nhw a chyfle i gynnig eich amddiffyniad,” meddai mewn cyfweliad ar Radio Wales.

Yn ôl ei ffrindiau, doedd Carl Sargeant ddim wedi cael gwybod beth oedd y cyhuddiadau yn ei erbyn, er iddo ofyn.

Ac yn ôl yr AC Llafur, Jenny Rathbone, roedd wedi cael ei drin yn “annheg ar y lefel fwya’ sylfaenol”. “Os oes cyhuddiadau’n cael eu gwneud yn ein herbyn, mae’n rhaid i ni wybod beth oedden nhw,” meddai.

Fe fydd cylchgrawn Golwg fory hefyd yn galw am drefn deg i ddelio â chyhuddiadau o’r fath gan ddweud bod cosb fel arfer yn dilyn ymchwiliad.

‘Gofal’

Yn ôl Alistair Graham, roedd angen rhoi gofal i ffigurau cyhoeddus oedd yn cael eu cyhuddo – os oedden nhw’n honiadau hanesyddol, fe allen nhw fod yn sioc fawr ac fe allai’r bobol sy’n cael eu cyhuddo “deimlo’n fregus iawn, iawn”.

Hyd yn hyn, dyw’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ddim wedi rhoi sylw am y drefn, ond mae wedi awgrymu bod nifer o gyhuddiadau wedi eu gwneud gan nifer o fenywod a’r gred yw eu bod yn ymwneud â’r Blaid Lafuyr yn hytrach na’r Llywodraeth.