Mae cyfnod Jane Hutt yng Nghabinet Llywodraeth Cymru wedi dod i ben ar ôl 18 mlynedd o fod ar y meinciau blaen.

Ei rôl ddiweddaraf yn nhîm Carwyn Jones oedd y Chwip – ond ers sefydlu’r Cynulliad yn 1999 bu yn Weinidog Iechyd, Addysg a Chyllid.

Mewn datganiad, mae’r Prif Weinidog yn dweud mai Jane Hutt AC Bro Morgannwg ddaeth â sefydlogrwydd drwy gyfnodau anodd ym Mae Caerdydd.

“Delifro cyfaddawd”

“Mae Jane Hutt wedi bod yn rhan o Lywodraeth Cymru, a bywyd cyhoeddus Cymru am ddau ddegawd,” meddai Carwyn Jones.

“Roedd ei dull unigryw a’i gallu hynod i adeiladu pontydd wastad yn dod â sefydlogrwydd drwy’r cyfnodau anoddaf o wleidyddiaeth bleidiol ym Mae Caerdydd – hi oedd wastad yr un oedd yn gallu delifro cyfaddawd synhwyrol a dod o hyd i ffordd drwy gyfnodau anodd.

“Fe wnaeth wasanaethau mewn sawl rôl yn rhagorol a doedd dim amheuaeth i’w hymrwymiad a’i theyrngarwch.

“Mae pobol Bro Morgannwg yn lwcus iawn o gael gwleidydd mor ymroddedig i’w cynrychioli, a dw i’n sicr y bydd yn parhau i wneud hynny’n rhagorol yn y dyfodol.”