Mae angen yr un fath o arian ar ganolbarth Cymru ag sy’n cael ei fuddsoddi yn ardaloedd y bargeinion dinas-ranbarthau, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Mae Bae Abertawe a Chaerdydd wedi sicrhau bargeinion dinesig ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Prydain ac awdurdodau lleol.

Mae’r rhain werth mwy na biliwn o bunnoedd o gyllid dros y ddeng a’r pymtheng mlynedd nesaf, ac mae trefniadau ar y gweill i ddatblygu bargen o’r fath yng ngogledd Cymru.

Ond yn ôl Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Cynulliad Cenedlaethol, mae angen trefniant tebyg ar y canolbarth hefyd, ac maen nhw wedi anfon adroddiad at Lywodraeth Cymru i’w ystyried.

‘Cwblhau’r jig-so’

“Byddai bargen y canolbarth yn cwblhau’r jig-so o ran gweledigaeth uchelgeisiol,” meddai Russell George, Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn a chadeirydd y Pwyllgor.

“Credwn y byddai cyllid i wella’r seilwaith trafnidiaeth a’r cysylltedd digidol, ac i ddatblygu cyfleoedd newydd o ran swyddi o fudd mawr i’r ardal ac i’r wlad gyfan.”

“Rydym hefyd am weld manteision y bargeinion hyn yn cyrraedd y bobol fwyaf difreintiedig yn eu hardaloedd,” meddai.

Cyflymu bargen dwf y gogledd

Mae’r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pa gamau ymarferol allai fod yn rhan o fargen dwf i’r canolbarth.

Maen nhw hefyd wedi galw am gadarnhad y byddan nhw’n parhau i gefnogi cynlluniau bargen dwf y gogledd ac yn cyflymu’r broses honno.