Mae’r Undeb Ewropeaidd yn fwy tebygol o elwa’n ariannol o Brexit nag y mae Prydain, yn ôl y gweinidog sy’n gyfrifol am y mater.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Brexit, David Davis, bydd y ddêl ymadael “fwy na thebyg yn ffafrio’r Undeb [Ewropeaidd] o ran arian ac yn y blaen”.

Fe ddaeth y sylw yn ystod cyfarfod Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ’r Arglwyddi, lle bu’r gweinidog yn trafod ei amcanion ar gyfer amserlen Brexit.

Mae’n debyg bod David Davis yn credu y bydd cytundeb dros ddêl fasnach yn cael ei tharo erbyn Hydref 2018, ac mae gadael heb ddêl o gwbwl yn “annhebygol iawn”.

O ran diogelu cyfnod penodedig o amser fyddai’n hwyluso’r trawsnewidiad at ymadawiad llwyr, mae’r Ysgrifennydd yn ffyddiog y bydd gweinidogion yn dod i gytundeb erbyn diwedd Mawrth 2018.