Arweinydd corau a chymanfaoedd canu, yn ogystal â pherchennog siop lyfrau Cymraeg, sydd wedi’i ethol yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Conwy 2019.
Fe ddaeth y cyhoeddiad ar dudalen Facebook Trystan Lewis, wrth i’r cerddor o Ddeganwy ddweud ei bod hi’n “fraint yn ogystal â chyfrifoldeb aruthrol” i arwain y codi arian a’r trefniadau at brifwyl.
Mae yna gryn siarad wedi bod yn ddiweddar ynglyn â lle’n union y bydd yr wyl yn cael ei chynnal ymhen dwy flynedd, gyda meysydd ger Abergele ac un arall yn Llanrwst yn cael eu hystyried o ddifrif.
“Tros y misoedd nesaf, rwy’n edrych ymlaen i gydweithio gyda phawb ym mhob rhan o’r sir er mwyn ffurfio pwyllgorau apêl, is-bwyllgorau adrannau’r Eisteddfod a’r holl waith ddaw yn sgîl trefnu Eisteddfod,” meddai Trystan Lewis ar Facebook.
“Rwy’n awyddus i gael eich mewnbwn chi; eich syniadau ynglyn â phob agwedd o’n heisteddfod ni a chithau, yn ogystal â syniadau i godi arian.
“Dewch i ni gael trefnu Eisteddfod i’w chofio yn sir Conwy, o Langwm i Landudno, o Lanfairfechan i Langernyw. Amdani!”
Mae Trystan Lewis yn o aelodau ieuengaf Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, ac ef oedd ymgeisydd Plaid Cymru am sedd Aberconwy yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 2016. Ef a’i wraig sy’n rhedeg Siop Lyfrau Lewis yn nhref Llandudno.