Mae Heddlu Dyfed Powys yn credu bod dyn ynghyd â phump o blant ifanc wedi marw ar ôl i dân ddifrodi tŷ fferm yn Llangamarch ym Mhowys bore ddoe.

Credir bod David Cuthbertson, sydd wedi cael ei enwi’n lleol, wedi’i ladd ynghyd a phump o blant rhwng pedair ac 11 oed.

Dechreuodd y tân toc wedi hanner nos fore ddydd Llun (Hydref 30) a llwyddodd tri phlentyn i ddianc o’r tân.

Mae’r plant, sy’n 13, 12 a 10 oed, yn parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty ond mae’n debyg nad ydyn nhw wedi cael anafiadau sy’n bygwth eu bywydau.

“Oherwydd difrifoldeb y difrod yno, rydym ni methu adnabod unrhyw un o’r meirw ar hyn o bryd,” meddai Uwch-arolygydd Heddlu Dyfed Powys, Jon Cummins.

Mae gwyddonwyr arbenigol ac ymchwilwyr tân yn cynnal asesiadau ac mae’r tân yn cael ei drin fel un “anesboniadwy” ar hyn o bryd.

Mae blodau wedi cael eu gosod ar y ffordd yn arwain at y ffermdy ac mae cronfa wedi cael ei sefydlu i roi cymorth i’r teulu.