Dros y dyddiau diwethaf mae degau o octopysau wedi’u canfod yn ymlusgo ar draeth Ceinewydd yng Ngheredigion.

Un sydd wedi bod allan yn cadw llygad ar y creaduriaid yw Brett Stones sy’n cynnal teithiau tywys i wylio dolffiniaid ym Mae Ceredigion, sef Sea Môr.

Mae’n dweud iddo weld cymaint â 25 o octopysau cribog ar y traeth ers y penwythnos a bod gwirfoddolwyr wedi bod wrthi’n ceisio rhoi’r rhai sydd wedi ymlusgo ymhell o’r môr yn ôl i’r dŵr.

“Mae mwy yn cyrraedd bob nos,” meddai Brett Stones wrth golwg360. Mae’n esbonio nad yw wedi gweld unrhyw beth tebyg i hyn o’r blaen.

“Ni’n credu y gallen nhw fod yn bwrw sil ac yn marw ar ôl hynny,” meddai gan ychwanegu y gallent fod wedi cael eu golchi i’r lan yn dilyn stormydd diweddar gan gynnwys Ophelia a Brian.