Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynnal ymchwiliad wedi tân mewn tŷ ym Mhowys bore heddiw (Hydref 30).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi canol nos yn dilyn adroddiadau o dân yn Llangamarch, pentref ger Llanfair ym Muallt.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud eu bod yn “cydweithio’n agos” â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (Tân CGC).

Mae adroddiadau bod hofrenyddion heddlu, injans tân ac aelodau Tîm Achub Mynydd Bannau Brycheiniog yn bresennol yn ardal Llangamarch.

 ‘Cydweithio’

“Tân CGC sydd yn arwain o ran y digwyddiad yma,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys. “Ond mae swyddogion heddlu yn eu cynorthwyo yn y fan a’r lle.”

“Mae’n rhy gynnar i gadarnhau manylion pellach ar hyn o bryd, ac mi fydd y gwasanaeth tân yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth pan fo hynny’n briodol.”