Mae Prif Weinidog Cymru yn Llundain heddiw i gyfarfod â Theresa May gyda disgwyl i Brexit fod ar frig yr agenda.

Mae Llywodraeth Cymru wedi beirniadu Mesur Ymadael Llywodraeth Prydain yn y gorffennol gan ei ddisgrifio’n ymgais i “gipio pwerau” oddi wrth lywodraethau datganoledig wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn cyfarfod diweddar o’r Cydbwyllgor Gweinidogion, fe ddywedodd Mark Drakeford na fyddai Llywodraeth Cymru yn “lliniaru dim” ar eu gwrthwynebiad i’r mesur hwnnw cyn ychwanegu eu bod wedi cael “cyfarfod adeiladol.”

Yn ogystal, mae Carwyn Jones wedi datgan fod gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb “ddim yn opsiwn” a’i fod am barhau ag aelodaeth o’r farchnad sengl.

Camau gweithredu aflonyddu rhywiol

Mae disgwyl y bydd Carwyn Jones hefyd yn cefnogi camau gweithredu yn erbyn aflonyddu rhywiol yn ystod y cyfarfod yn Stryd Downing heddiw.

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter, fe ddywedodd Carwyn Jones – “bydda i’n datgan cefnogaeth bendant i gamau gweithredu cadarn yn erbyn aflonyddu rhywiol.”

Mae’n ychwanegu y bydd yn ysgrifennu at Lywydd y Cynulliad i alw am gyfarfod brys rhwng pob plaid.