Mae’r nifer sy’n gwrando ar Radio Cymru wedi gostwng o 4,000, yn ol y set ddiweddaraf o ystadegau gan y corff RAJAR.
Mae’r rhestrau diweddaraf o bob gorsaf radio yng ngwledydd Prydain wedi’u cyhoeddi heddiw ac yn dangos mai 124,000 o bobol, ar gyfartaledd, oedd wedi tiwnio i mewn i’r donfedd bob wythnos rhwng Gorffennaf a Medi eleni.
Roedd ffigurau y chwarter blaenorol, a gyhoeddwyd Awst 2, yn dweud bod nifer y gwarandawyr yn 128,000. Ac roedd hynny’n gynnydd o 9,000 ar y chwarter cyn hynny.
Ac o fynd yn ol i chwarter cyntaf y flwyddyn, rhwng Ionawr a diwedd Mawrth, roedd nifer gwrandawyr Radio Cymru yn 119,000.
Clec i niferoedd Radio Wales
Mae ffigurau diweddaraf RAJAR ar gyfer nifer gwrandawyr Radio Wales yn dangos mai 361,ooo fu’n gwrando rhwng Gorffennaf a Medi eleni.
Mae hynny dros 40,000 yn llai na’r 408,000 oedd yn gwrando bob wythnos yn ystod y chwarter blaenorol.
Ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn hon (Ionawr hyd ddiwedd Mawrth) y ffigur oedd 373,000.