Mae cynllun gan Lywodraeth Cymru i wella addysg gynradd drwy gael gwared ar ddysgu “ffurfiol” wedi derbyn clod gan gorff addysg.

Dywedodd Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, fod y newid wedi cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion ifanc.

Roedd y mwyafrif o blant pump i chwech oed yn gwneud yn dda yn ysgolion Cymru, medden nhw.

Cafodd y cynllun ei gyflwyno yn 2008 yn dilyn ymchwil oedd yn awgrymu nad oedd disgyblion yn elwa o “ddysgu ffurfiol” nes eu bod nhw’n chwech neu saith oed.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Estyn fod y mwyafrif o ysgolion cynradd Cymru yn darparu “amgylchedd amrywiol, cynhyrchiol ac ysgogol” i blant ddatblygu eu sgiliau darllen ac ysgrifennu.

‘Brwdfrydig’

Yn ôl yr adroddiad mae plant bach yng Nghymru yn fwy parod i ddysgu drwy chwarae – yn enwedig hogiau.

“Er nad ydyn ni eto wedi gallu asesu effaith gyffredinol y dull hwn o ddysgu, mae yna dystiolaeth sy’n awgrymu fod y cyfnod sylfaen yn cael effaith gadarnhaol ar les a chyflawniad plant ysgol gynradd,” meddai’r Prif Archwilydd, Ann Keane.

“Yn gyffredinol, mae plant yn fwy brwdfrydig ac yn fwy parod i gymryd rhan.”

Yn yr ysgolion gorau roedd athrawon wedi datblygu “gweithgareddau heriol a chreadigol” oedd yn datblygu sgiliau ysgrifennu a darllen y plant, meddai Ann Keane.

Mae ysgolion cynradd Coed Efa yng Nghwmbrân ac  Ysgol Ffridd Y Llyn yng Ngwynedd yn cael eu clodfori am wneud hynny.

Ond dywedodd eu bod nhw’n pryderu nad oedd rhai ysgolion wedi deall y system, sydd bellach wedi disodli cyfnod allweddol un ar y cwricwlwm cenedlaethol.

“Mewn rhai ysgolion doedd y gweithwyr ddim wedi eu hargyhoeddi fod gan y cyfnod allweddol werth addysgiadol,” meddai Ann Keane.

Yn yr ysgolion rheini “doedd y plant ddim yn cael cynnig cyfleoedd digon heriol i ddatblygu eu sgiliau darllen ac ysgrifennu.”

‘Safonau yn disgyn’

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod canfyddiadau’r adroddiad yn galonogol ond fod angen rhagor o waith.

“Mae’n bryder fod Estyn wedi adnabod lleiafrif o ysgolion lle nad yw’r plant yn cael cynnig cyfleoedd digon heriol i ddatblygu eu sgiliau,” meddai llefarydd. “Dyw hynny ddim yn dderbyniol.

“Rydyn ni wedi pwysleisio dro ar ôl tro na ddylai safonau ddisgyn o ganlyniad i ddysgu drwy chwarae.

“Mae’r gweinidog (Leighton Andrews) wedi bod yn agored iawn ynglŷn â’r angen i safonau godi yng Nghymru, ac y dylai llythrennedd a rhifedd fod yn flaenoriaeth.

“Fe fyddwn ni’n gweithio yn agos â Estyn er mwyn dadansoddi eu canfyddiadau a gweld pam nad yw safonau yn yr ysgolion rhain yn ddigon da.”