Helen Mary Jones
Mae Cadeirydd newydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones, wedi dweud nad ydi hi eisiau cael ei llusgo i mewn i ffrae deuluol.

Cyhoeddodd ei chwaer neges ar wefan Facebook yn dweud ei fod yn “warthus” fod cyn-Aelod Cynulliad Llanelli yn hawlio’r lwfans ceisio gwaith.

Ond dywedodd Helen Mary Jones, a gollodd ei sedd yn yr etholiad ym mis Mai, nad oedd hi wedi hawlio unrhyw fudd-daliadau.

“Mae hi wedi hawlio’r arian er bod ganddi dri thŷ, un ohonyn nhw wedi ei brynu iddi gan y trethdalwr, a blwyddyn o gyflog i’w rhoi hi ar ben ffordd,” meddai ei chwaer  Myfanwy Alexander ar ei thudalen Facebook.

“Mae’n ddrwg gen i ddweud hyn am aelod o fy nheulu fy hun ond mae o’n warthus. Dylet ti fyw ar y chwarter miliwn etifeddaist ti gan dad cyn gofyn am ragor.”

Daw ei sylwadau wedi i Helen Mary Jones ddweud wrth y BBC ei bod hi wedi cofrestru yn ddi-waith.

Ymatebodd i gais am sylw gan bapur newydd y Western Mail gan ddweud nad oedd hi’n “trafod materion teuluol yn gyhoeddus”.

Mynnodd nad oedd ganddi dri thŷ, nad oedd hi wedi derbyn blwyddyn o gyflog ar ôl colli ei sedd, ac nad oedd hi wedi hawlio unrhyw lwfans ceisio gwaith.