Mae pobol Cymru ymysg y mwyaf lwcus ym Mhrydain, yn ôl trefnwyr y Loteri Genedlaethol.

Cymru sydd wedi gweld y mwyaf o bobol yn ennill y loteri fesul pen ar ôl gogledd ddwyrain Lloegr, medden nhw.

Mae 179 o’r 2,715 o filiwnyddion sydd wedi eu creu ers i’r gêm lansio yn 1994 wedi bod yng Nghymru.

Mae hynny’n golygu fod 1 o bob 14,502 o bobol sy’n byw yng Nghymru wedi ennill mwy na miliwn wrth chwarae’r loteri.

Mae 164 o bobol yng ngogledd Lloegr, sef un ym mhob 14,211 o drigolion y rhanbarth, wedi ennill o fewn yr 16 mlynedd diwethaf.

Swydd Efrog oedd y trydydd ar y rhestr – mae 272 o bobol wedi ennill y loteri yno. Y ‘rhanbarth’ mwyaf anlwcus yw Gogledd Iwerddon.

Dim ond 53 o filiwnyddion oedd wedi eu creu yno, neu un ym mhob 24,287 o’r boblogaeth.

“Mae map y miliwnyddion yn dangos fod mwy o filiwnyddion wedi eu creu yn Llundain, canolbarth Lloegr a’r de-ddwyrain… ond, yn ystadegol, Cymru a gogledd ddwyrain Lloegr yw’r ardaloedd mwyaf ‘lwcus’ oherwydd bod llai o bobol yn byw yno,” meddai llefarydd ar ran y Loetri Cenedlaethol.

“Mae pobol yn gofyn o hyd beth yw’r ateb i ennill, ac mae pawb eisiau gwybod lle mae’r siop, pentref neu ddinas fwyaf lwcus.

“Ond mae’r map yn dangos fod miliwnyddion wedi eu creu ym mhob cwr o’r wlad. Mae pawb yn gallu ennill – mae’n loteri lwyr!”

Bydd £138 miliwn ar gael yn yr EuroMillions yfory, y pumed jacpot mwyaf yn hanes Prydain.

Y ‘rhanbarthau’ mwyaf lwcus

  1. Gogledd Ddwyrain Lloegr – un ym mhob 14,211
  2. Cymru – un ym mhob 14,502
  3. Swydd Efrog – un ym mhob 16,060
  4. Dwyrain Lloegr – un ym mhob 16,093
  5. Yr Alban – un ym mhob 16,141
  6. Llundain – un ym mhob 16,960
  7. De Ddwyrain Lloegr – un ym mhob 17,126
  8. Gogledd Orllewin Lloegr – 1 ym mhob 17,520
  9. Caolbarth Lloegr – un ym mhob 19,263

10.  De Orllewin Lloegr – un ym mhob 22,037

11.  Gogledd Iwerddon – un ym mhob 24,287