Warren Gatland - o ffewn dim
Fe ddaeth Cymru o fewn ½% i ennill yn erbyn pencampwyr y byd, meddai’r prif hyfforddwr Warren Gatland.

Fe roddodd ganmoliaeth anferth i’w chwaraewyr ifanc ar ôl iddyn nhw golli o ddim ond 17-16 yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn erbyn De Affrica.

Y gwahaniaeth, meddai, oedd methu ambell gyfle fel gôl adlam ger y pyst gan y maswr Rhys Priestland neu gic gosb o’r ochr dde gan y cefnwr James Hook.

Sylwadau Gatland

“Fe fyddwn ni’n gallu mynd â nifer anferth o bwyntiau posiotif o’r gêm o ran meddiant a thir,” meddai Gatland wrth deledu Seland Newydd lle mae’r gystadleuaeth.

“Fe wnaethon ni chwarae rygbi gwych ond, yn y diwedd, doedden ni ddim cweit digon da. Roedd y chwaraewyr ifanc yn hollol ardderchog.

“Ryden ni’n curo ar y drws ond d’yn ni ddim cweit wedi cyrraedd – o rhyw ½% bach.”

Cic Hook – ‘felna mae’

Roedd y prif hyfforddwr yn gwrthod rhoi’r bai ar benderfyniad y dyfarnwr i wrthod cic gosb ddilys gan James Hook yn yr hanner cynta’, er y byddai honno wedi gwneud y gwahaniaeth rhwng ennill a chael un pwynt bonws.

“Roedd Francois Steyn yn dweud hanner amser fod y gic gosb wedi mynd trwodd, ond dyna’r math o beth sy’n digwydd mewn chwaraeon.”