Toby Faletau - y cais
De Affrica 17  Cymru 16

Fe ddaeth Cymru o fewn dim i guro’r pencampwyr, De Affrica, yn eu gêm gynta’ yng Nghwpan y Byd.

Dim ond camgymeriad gan y dyfarnwr oedd wedi eu rhwystro rhag curo’r Springboks – fe wrthododd gic gosb ddilys gan James Hook ar ôl 13 munud.

Fel arall, fe lwyddodd Cymru i siglo De Affrica’n gyson ac fe fethodd Rhys Priestland gyfle da am gôl adlam a James Hook gic gosb anodd, a fyddai wedi ennill y gêm.

Faletau yn sgorio

Fe gafodd Cymru gyfnod ardderchog yng nghanol yr ail hanner gyda’r wythwr ifanc, Toby Faletau, yn sgorio cais ar ôl 53 munud a Hook yn trosi.

Mike Phillips oedd wedi creu’r cyfle’n agos at y lein gan roi pas hir i Rhys Priestland, y tu hwnt i un amddiffynnwr, a dwylo cyflym y maswr newydd yn rhyddhau Faletau.

Roedd hynny’n gosod Cymru 16-10 ar y blaen ac fe ddaeth rhediadau cry’ gan Roberts a Faletau â nhw o fewn troedfeddi i’r lein fwy nag unwaith eto.

Eilyddion yn gwneud gwahaniaeth

Ond, gyda De Affrica’n blino a gwneud camgymeriadau, fe ddaethon nhw ag eilyddion i’r cae ac un o’r rheiny, Francois Hougaard, a gafodd y cais allweddol yn union o dan y pyst.

Gyda Morné Steyn yn trosi i’w gwneud hi’n 17-16, roedd hynny’n ddigon i roi’r cyfle i Dde Affrica ddefnyddio’u profiad i rwystro Cymru.

Ond, gydag un o’u perfformiadau gorau erioed yng Nghwpan y Byd, fe gafodd Cymru un pwynt bonws a llawer o hyder, gyda’r chwaraewyr ifanc yn dangos cryfder hefyd a rhai fel Jamie Roberts, Mike Phillips ac Alun Wyn Jones yn cael rhai o’u gêmau gorau i’r wlad.