Mae adroddiadau fod S4C wedi mynnu na ddylen nhw dalu am ymchwiliad oedd yn feirniadol am y sianel ar ôl i’r casgliadau gael eu gollwng i ddwylo’r wasg.
Cafodd Prifysgol Cymru ei chomisiynu gan S4C i gynnal ymchwiliad i’r sianel. Cafodd gweithwyr a chyfranogwyr S4C eu cyfweld gan Richie Turner, dirprwy gyfarwyddwr Academi Ryngwladol Prifysgol Cymru rhwng mis Mawrth ac Ebrill.
Roedd yr adroddiad yn feirniadol iawn o’r sianel ond cafodd ei ollwng i’r Western Mail. Mae un o weithwyr y Brifysgol wedi ei atal o’i waith ac maen nhw’n ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd.
“Mae Prifysgol Cymru wedi comisiynu ymchwiliad mewnol i’r mater hwn, ac mae aelod o staff wedi ei atal rhag gweithio hyd nes ceir canlyniad yr ymchwiliad,” meddai llefarydd ar y pryd.
Yn ôl adroddiad gan y BBC mae S4C bellach wedi gwneud cwyn cyfreithiol yn erbyn Prifysgol Cymru. Maen nhw eisiau i’r arian gafodd ei dalu am yr adroddiad gael ei dalu yn ôl.
Mewn datganiad dywedodd S4C nad oedden nhw wedi rhoi unrhyw bwysau ar Richie Turner i ddal yn ôl rhag beirniadu’r sianel.
Ond ychwanegodd y sianel fod “S4C, drwy ei gyfreithiwr, wedi cyfleu ei siom nad oedd fersiwn terfynol adroddiad Richie Turner yn cydnabod y camau cadarnhaol y mae’r Awdurdod eisoes wedi eu cymryd i fynd i’r afael â rhai o’i gasgliadau a’r gwelliannau sylweddol sydd eisoes wedi deillio o hynny,” medden nhw.
Bydd Awdurdod S4C yn cynnal cyfweliadau am swydd Prif Weithredwr y sianel ddydd Gwener yr wythnos nesaf.
Yr adroddiad
Yn ôl canfyddiadau’r adroddiad, dydi’r sianel ddim bellach yn deall beth yw cymdeithas sy’n siarad Cymraeg, ac mae angen newid sawl peth o fewn y sianel os yw am oroesi yn y dyfodol.
“O’r tu allan mae diwylliant S4C yn cael ei ddisgrifio fel un gor-gyfrinachol, naïf yn wleidyddol, trahaus y tu hwnt i’w rôl, yn esiampl ddrwg o sut i ymddwyn fel darlledwr cyhoeddus, heb ddeall mewn gwirionedd beth yw cymdeithas sy’n siarad Cymraeg …” meddai’r adroddiad.
Ychwanegodd yr adroddiad fod y sianel yn cael ei gweld fel un sy’n diffygio mewn creadigrwydd “ac yn amharod i newid.”
Yn anffodus doedd barn pobol oedd yn gweithio i S4C “ddim llawer gwell,” meddai’r adroddiad.
“Mae moral yn isel a dyw ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol ddim yn helpu yn hynny o beth,” meddai.
“Mae yna ddiffyg hyder gan nifer o’r staff i fynd i’r afael â’r problemau y mae’r S4C yn eu hwynebu. Mae’r diwylliant yn un o ofn, cyfrinachedd, diffyg ffydd a gormod o reolaeth.”