Stadiwm Wembley
Mae’r heddlu wedi enwi cefnogwr gafodd ei guro i farwolaeth y tu allan i Stadiwm Wembley cyn gêm bêl-droed Cymru a Lloegr.

Ymosodwyd ar Mike Dye, 44, o Gaerdydd, cyn dechrau gêm gymhwyso Ewro 2012 yng ngogledd Llundain.

Mae chwe dyn – pob un yn gefnogwyr Cymru – yn cael eu holi gan yr heddlu am beth ddigwyddodd.

Daethpwyd o hyd i Mike Dye yn dioddef o anafiadau i’w ben y tu allan i lidiart y stadiwm tua 7.20pm neithiwr.

Dywedodd parafeddygon ei fod hefyd wedi dioddef o drawiad ar y galon cyn cyrraedd yr ysbyty.

Mae’r heddlu wedi galw ar unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd i gysylltu â nhw.

“Mae swyddogion o’r adran Llofruddiaethau a Throseddau Difrifol yn ymchwilio, ac rydyn ni’n parhau i geisio sefydlu’r darlun llawn o beth ddigwyddodd,” meddai llefarydd.

“Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â 020-8358 0100, neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.”

Teyrngedau

Roedd Mike Dye yn gweithio yn adran y priffyrdd Cyngor Caerdydd a dywedodd ei gyd-weithwyr eu bod nhw wedi torri eu calonnau.

“Roedd yn gyfaill a chydweithiwr da oedd wedi rhoi 20 mlynedd o wasanaeth i’r Cyngor,” meddai’r Prif Weithredwr, Jon House.

“Mae ein cydymdeimladau ni â’i deulu ac fe fyddwn ni’n cynnig cefnogaeth iddyn nhw a’i gydweithwyr.”

Mae miloedd o bobol wedi gadael negeseuon ar Facebook dan y teitl ‘RIP Mike Dye’. Mae sawl un yn cyfeirio at ei wraig Nathalie a’i blant.

“Roeddet ti’n berson hyfryd sydd wedi ein gadael ni’n rhy fuan. Cydymdeimladau dwys i’r teulu cyfan,” ysgrifennodd Lisa Kavanagh.

“Doeddwn i ddim yn dy nabod di ond fel pawb arall mae clywed am hyn wedi fy ngwneud i’n sâl,” meddai Carol Binding.

Roedd Mike Dye yn cefnogi clwb pêl-droed Caerdydd ers blynyddoedd ac yn ysgrifennu am y clwb ar fforwm drafod y clwb.