Wemberley...
Owain Schiavone sy’n asesu’r hyn a ddysgwyd o’r golled yn erbyn y Saeson yn Wembley…

Colli, ond y farn gyffredinol yw bod y gêm neithiwr yn cynnig gobaith o’r hyn a ellir ei gyflawni gan dîm Cymru Gary Speed.

Ar y cyfan, mae’r ddwy gêm ragbrofol dros yr wythnos ddiwethaf wedi codi calon cefnogwyr Cymru gan awgrymu bod Speed yn dechrau symud y tîm i’r cyfeiriad cywir wedi dechrau siomedig fel rheolwr.

Dyma bum peth rydan ni wedi’i ddysgu o’r gêm neithiwr felly.

1) Blake a Taylor â photensial hirdymor

Dau chwaraewr sydd wedi dal fy llygad yn fwy na neb yn y ddwy gêm ydy Darcy Blake o Gaerdydd a Neil Taylor o Abertawe.

Tydi Blake ddim yn gallu cael lle yn nhîm cyntaf Caerdydd ar hyn o bryd, ac ar yr olwg gyntaf tydi o ddim yn edrych fel amddiffynnwr canol o gwbl. Er iddo gael gêm dda yn erbyn Montenegro nos Wener, roedd disgwyl i Speed droi at brofiad Uwch Gynghrair James Collins yn Wembley neithiwr ond nid felly y bu. Chwarae teg i Speed am fentro, ac fe gafodd ei wobrwyo wrth i Blake roi perfformiad hyderus a chadarn wrth ochr Ashley Williams. Gobeithio fod perfformiad Blake wedi dal llygad Malky Mackay, a phrofi y dylai fod yn ddewis cyntaf i Gaerdydd…neu fel arall, gobeithio ei fod wedi dal llygad un neu fwy o reolwyr yr Uwch Gynghrair fydd yn fodlon rhoi cyfle iddo.

Craig Bellamy a Gareth Bale oedd sêr Cymru yn erbyn Montenegro, ond i mi roedd perfformiad Neil Taylor yn un trawiadol hefyd. Roedd yn chwarae fel cefnwr chwith, gyda Bellamy o’i flaen ar yr asgell ac fe gyfunodd y ddau’n effeithiol trwy’r nos. Mae Bellamy’n gallu bod yn feirniadol iawn o’i gyd-chwaraewyr, ond roedd i’w weld yn gyfforddus iawn â Taylor ac mae hynny’n arwyddocaol. Mae Lloegr yn Wembley’n sefyllfa wahanol iawn i Montenegro yng Nghaerdydd, ond roedd Taylor yr un mor gyfforddus ar y llwyfan mawr. Fe wnaeth gwpl o gamgymeriadau bach, ond ar y cyfan roedd yn soled iawn ac er iddo greu’r gôl (pan oedd Ledley’n ei farcio) ychydig iawn o hwyl gafodd Stuart Downing ar yr asgell.

2) Mae ‘na opsiynau yng nghanol y cae

Am y tro cyntaf ers blynyddoedd, mae gan Gymru ddigonedd o opsiynau o ran chwaraewyr canol cae. Roedd Bellamy a Vaughan wedi’u gwahardd felly roedd rhaid i Speed wneud newidiadau yn y canol, ac i mewn daeth Crofts a Collison gyda Ledley’n symud i’r asgell. Chwaraeodd y ddau’n arbennig o dda a rhoi llwyfan cadarn i ddoniau Aaron Ramsey.

Ar y fainc neithiwr roedd dau chwaraewr arall sydd â photensial mawr, sef Andy King o Gaerlŷr a Joe Allen o Abertawe. Mae gan Gymru felly ddau neu dri o gyfuniadau gwahanol yng nghanol y cae. Mae’n braf gweld bod y dyddiau du o’r ddau Carl – Fletcher a Robinson – yn y canol wedi pasio.

Y newyddion da arall neithiwr yw bod Jack Collison o’r diwedd yn Gymro llawn! Neithiwr oedd ei ymddangosiad cystadleuol cyntaf i Gymru, gyda phob un o’i gapiau blaenorol yn dod mewn gemau cyfeillgar. Mae hyn yn golygu nad oes modd iddo chwarae i Loegr bellach. Fe fydd yn chwaraewr allweddol.

3) Gall gêm basio Cymru weithio

Roedd gêm basio Cymru yn effeithiol dros ben neithiwr. Er tegwch, rhaid rhoi peth clod i John Toshack am geisio mabwysiadu gêm basio. Mae Brian Flynn hefyd yn annog cadw’r bêl a phasio ymysg ei dimau ieuenctid, sy’n amlwg wedi dylanwadu ar y criw o chwaraewyr ifanc sydd yn nhîm cyntaf Cymru bellach. Y broblem gyda chyfnod Toshack oedd bod digon o basio, ond yn aml roedd yn teimlo fel eu bod yn pasio er mwyn pasio, heb wneud unrhyw gynnydd na difrod i dimau.

Roedd pethau’n well yn erbyn Montenegro, gyda Chymru’n chwarae gêm llawer mwy uniongyrchol a symud y bêl o’r amddiffyn i’r ymosod yn llawer cynt. Fe wnaethon nhw reoli’r meddiant am gyfnodau hefyd, ond neithiwr roedd hynny’n llawer mwy amlwg, yn arbennig yn yr ail hanner. Beth sy’n bwysig yw bod modd i’r tîm addasu eu gêm gan ddibynnu ar y gwrthwynebwyr ac maen nhw wedi gwneud hynny yn y ddwy gêm ddiwethaf. Am gyfnod yng nghanol yr ail hanner, doedd Lloegr ddim yn gallu cael gafael ar y bêl.

4) Safle’r ymosodwr yn dal i fod yn broblem

Ers i John Hartson roi’r gorau iddi mae Cymru wedi cael trafferth ffeindio’r chwaraewr iawn i arwain yr ymosod. Mae Steve Morison wedi gwneud yn dda yn y ddwy gêm ddiwethaf, ond mae tipyn o waith arno eto. Mae Earnie druan jyst yn rhy fach i chwarae ar ben ei hun yn yr ymosod. Mae ‘na opsiynau eraill ar ffurf Hal Robson-Kanu, Sam Vokes, Simon Church a Ched Evans ond does yr un o’r rhain yn ddewis cyntaf amlwg ar hyn o bryd.

Y peth arall sydd ar goll yn y tîm ydy goliau. Heblaw am Earnshaw, does yr un Cymro wedi sgorio’n rheolaidd i’w wlad ers Ian Rush ac mae hyn yn broblem gan fod rhaid sgorio i ennill gemau. Wedi dweud hynny, gall goliau ddod o rannau eraill y tîm ac yn benodol y triawd sanctaidd o Bale, Bellamy a Ramsey, ond er mwyn i hynny ddigwydd mae angen y person iawn i ddal y bêl a’i dosbarthu iddyn nhw.

5) Dwy seren ddisglair

Neu ddau chwaraewr gwych efallai. Mae’n reit amlwg pwy ydy’r rhain – Bale a Ramsey wrth gwrs.

Er bod chwaraewyr ymosodol gwych yn nhîm Lloegr neithiwr – Rooney, Young, Downing a Lampard, y ddau Gymro oedd y ddau chwaraewr gorau ar y cae yn Wembley.

Nos Wener oedd gêm orau Gareth Bale i Gymru, ac roedd yn fygythiad pob tro y daeth y bêl i’w gyfeiriad neithiwr hefyd. Dylai fod wedi cael cyfle i unioni’r sgôr pan ddyfarnwyd yn anghywir ei fod yn camsefyll wedi’r hanner. Roedd yn hunllef i amddiffyn Lloegr trwy’r gêm.

Ers cael ei wneud yn gapten, dwi wedi teimlo bod Ramsey’n teimlo’r pwysau ac yn trio gwneud gormod ei hun, ond fe newidiodd hyn yn Wembley. Neithiwr oedd perfformiad gorau Aaron Ramsey dros ei wlad o bell ffordd. Mae wedi rhoi heibio trafferthion ei glwb dros yr wythnos diwethaf, a neithiwr fe reolodd bopeth yng nghanol y cae. Roedd mor dda nes bod ITV yn ei enwi’r seren y gêm!

Os allwn ni adeiladu tîm cadarn ac effeithiol o’u cwmpas nhw, fe all y ddau yma gwblhau tîm Cymreig sy’n gallu herio’r goreuon.