Fabio Capello
Mae rheolwr Lloegr, Fabio Capello, wedi cyfaddef bod ei dîm yn lwcus i ennill eu gêm yn erbyn Cymru neithiwr.

Hon oedd buddugoliaeth gyntaf y Saeson yn Wembley ers blwyddyn, ac mae’r rheolwr wedi cwyno am fethiant eu dîm i reoli eu gemau cartref.

Er hynny, mae’r canlyniad yn golygu mai pwynt yn unig sydd angen ar Loegr yn erbyn Montenegro fis nesaf i ennill grŵp G.

Lloegr wedi ‘dioddef’

Dywed Capello fod ei chwaraewyr wedi “dioddef” yn y chwarter awr diwethaf o’r gêm wrth i Gymru bwyso am gôl i ddod a’r sgôr yn gyfartal.

Dylai’r gôl honno fod wedi dod i Robert Earnshaw gyda 14 munud yn weddill, ond methodd yr ymosodwr bach â sgorio i rwyd wag o chwe llath.

“Oedden, roedden ni’n lwcus” meddai Capello.

“Yr eiliad y gwnaethon ni’n camgymeriad yna o flaen y gôl, roedd yn lwc pur.”

“Fe wnaethon ni ddioddef llawer yn y chwarter awr olaf yna…dim ond am ugain munud olaf yr hanner cyntaf y chwaraeon ni’n dda.”

Speed yn falch o’i chwaraewyr

Er gwaethaf y siom o ddod mor agos at gipio pwynt, roedd rheolwr Cymru, Gary Speed yn falch o berfformiad ei chwaraewyr.

“Ro’n i’n meddwl ei bod hi mewn” meddai Speed am gyfle Earnshaw.

“Petai chi’n cael dewis un person i fod yn y safle yna, Earnie fydde chi’n dewis.”

“Ond mae’n ffordd y gwnaethon ni chwarae’n lleihau’r siom. Dwi mor falch o’m chwaraewyr, yn enwedig yn yr ail hanner.”

“Roedden ni’n gwybod y bydde ni’n dod dan bwysau gan un o’r pedwar tîm gorau yn y byd, ond roedden ni eisiau aros yn y gêm.”

“Yn y diwedd, aeth pethau ddim ein ffordd ni ond dwi mor falch  o ba mor gyfforddus oeddwn ni’n edrych yn yr ail hanner.”

“Mae modd i ni gymryd nifer o bethau cadarnhaol o hyn i’r dyfodol.”