Stephen Jones
Mae’n annhebygol iawn y bydd Stephen Jones ar gael i chwarae yn erbyn De Affrica yn gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd, ddydd Sul.
Doedd y Llew ddim wedi gallu chwarae yng ngemau Cymru yn ystod mis Awst oherwydd anaf i groth y goes.
Bydd naill ai James Hook neu Rhys Priestland yn hawlio’r crys rhif 10 pan fydd y tîm yn cael ei gyhoeddi am 2pm ddydd Gwener.
Mae yna hefyd amheuaeth am y cyn-gapten Ryan Jones, sydd hefyd wedi anafu ei goes.
Ni fydd y prop Gethin Jenkins ar gael chwaith ar ôl llawdriniaeth i’w fys bawd ym mis Ionawr. Mae disgwyl i Paul James, sydd wedi dechrau pob gêm i Gymru eleni, gymryd ei le.
Dywedodd Warren Gatland ei fod yn hyderus y bydd Stephen Jones, Gethin Jenkins a Ryan Jones ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Samoa ar 18 Medi.
Bydd Cymru yn chwarae De Affrica am 9.30am (amser Cymru) ddydd Sul yn Stadiwm Wellington, prifddinas Seland Newydd.